Cyntaf Samuel 4:1-22
4 Ac aeth gair Samuel allan i Israel gyfan.
Yna aeth Israel allan i frwydro yn erbyn y Philistiaid; gwnaethon nhw wersylla wrth Ebeneser, a gwnaeth y Philistiaid wersylla yn Affec.
2 Dyma’r Philistiaid yn trefnu eu byddin yn barod i ryfela yn erbyn Israel, ond aeth pethau’n ddrwg i’r Israeliaid a chawson nhw eu trechu gan y Philistiaid a wnaeth daro i lawr tua 4,000 o ddynion ar faes y gad.
3 Pan aeth y bobl yn ôl i’r gwersyll, dywedodd henuriaid Israel: “Pam gwnaeth Jehofa ganiatáu inni gael ein trechu gan y Philistiaid heddiw? Gadewch inni gymryd arch cyfamod Jehofa gyda ni o Seilo er mwyn iddi fod gyda ni ac er mwyn iddi ein hachub ni o law ein gelynion.”
4 Felly anfonodd y bobl ddynion i Seilo, ac o fan ’na gwnaethon nhw gario arch cyfamod Jehofa y lluoedd, sy’n eistedd ar ei orsedd uwchben* y cerwbiaid. Roedd dau fab Eli, Hoffni a Phineas, yno hefyd gydag arch cyfamod y gwir Dduw.
5 Cyn gynted ag y daeth arch cyfamod Jehofa i mewn i’r gwersyll, dechreuodd yr Israeliaid i gyd weiddi’n uchel, nes bod y ddaear yn crynu.
6 Pan glywodd y Philistiaid sŵn y gweiddi, dywedon nhw: “Pam mae ’na gymaint o sŵn gweiddi yn dod o wersyll yr Hebreaid?” Yn y pen draw, dysgon nhw fod Arch Jehofa wedi dod i mewn i’r gwersyll.
7 Dechreuodd y Philistiaid ofni ac roedden nhw’n dweud: “Mae Duw wedi dod i mewn i’r gwersyll!” Felly dywedon nhw: “Mae hi ar ben arnon ni, does dim byd tebyg i hyn erioed wedi digwydd o’r blaen!
8 Mae hi ar ben arnon ni! Pwy fydd yn ein hachub ni o law y Duw mawr hwn? Dyma’r Duw wnaeth daro’r Aifft â phob math o drychinebau yn yr anialwch.
9 Byddwch yn ddynion dewr, chi Philistiaid, er mwyn ichi beidio â gwasanaethu’r Hebreaid fel maen nhw wedi eich gwasanaethu chi. Rhaid ichi ymddwyn fel dynion ac ymladd!”
10 Felly dyma’r Philistiaid yn brwydro ac yn gorchfygu’r Israeliaid, a gwnaeth pob un ffoi i’w babell. Cafodd nifer mawr eu lladd; syrthiodd 30,000 o filwyr Israel.
11 Ar ben hynny, cafodd Arch Duw ei chipio, a gwnaeth dau fab Eli, Hoffni a Phineas, farw.
12 Rhedodd dyn o lwyth Benjamin o faes y gad a chyrraedd Seilo ar y diwrnod hwnnw gyda’i ddillad wedi eu rhwygo a phridd ar ei ben.
13 Pan gyrhaeddodd y dyn, roedd Eli yn eistedd ar y sedd wrth ymyl y ffordd yn gwylio, oherwydd roedd yn poeni’n arw am Arch y gwir Dduw. Aeth y dyn i mewn i’r ddinas i sôn am y newyddion, a dechreuodd y ddinas gyfan weiddi mewn tristwch.
14 Pan glywodd Eli sŵn y gweiddi, gofynnodd: “Beth mae’r holl gyffro swnllyd ’ma yn ei olygu?” Rhuthrodd y dyn i mewn ac adrodd y newyddion wrth Eli.
15 (Nawr roedd Eli yn 98 mlwydd oed, ac roedd ei lygaid yn syllu yn syth ymlaen, a doedd ef ddim yn gallu gweld.)
16 Yna dywedodd y dyn wrth Eli: “Fi yw’r un a ddaeth o faes y gad! Gwnes i ffoi oddi yno heddiw.” Gyda hynny gofynnodd Eli: “Beth ddigwyddodd, fy mab?”
17 Felly dywedodd y negesydd: “Mae Israel wedi ffoi oddi wrth y Philistiaid, oherwydd cawson nhw eu trechu ac mae llawer wedi marw; hefyd mae dy ddau fab di, Hoffni a Phineas, wedi marw, ac mae Arch y gwir Dduw wedi cael ei chipio.”
18 Y foment y clywodd Eli am Arch y gwir Dduw, cwympodd yn ôl o’i sedd wrth ymyl y giât, a thorri ei wddf a marw, oherwydd roedd yn hen ac yn ddyn trwm. Roedd wedi barnu Israel am 40 mlynedd.
19 Roedd ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig Phineas, yn feichiog, ac roedd ei hamser i eni’r plentyn yn dod yn agos. Pan glywodd hi’r adroddiad fod Arch y gwir Dduw wedi cael ei chipio, a bod ei thad-yng-nghyfraith a’i gŵr wedi marw, plygodd hi drosodd oherwydd dechreuodd ei phoenau geni yn annisgwyl, a gwnaeth hi eni plentyn.
20 Pan oedd hi ar fin marw, dywedodd y merched* oedd yn sefyll wrth ei hymyl: “Paid ag ofni, oherwydd rwyt ti wedi geni mab.” Wnaeth hi ddim ateb na thalu sylw i’r peth.
21 Ond rhoddodd hi’r enw Ichabod* ar y bachgen gan ddweud: “Mae gogoniant wedi gadael Israel.” Roedd hi’n cyfeirio at Arch y gwir Dduw yn cael ei chipio ac at beth ddigwyddodd i’w thad-yng-nghyfraith a’i gŵr.
22 Dywedodd hi: “Mae gogoniant wedi gadael Israel am fod Arch y gwir Dduw wedi cael ei chipio.”