Cyntaf Samuel 13:1-23
13 Roedd Saul yn . . .* mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a rheolodd am ddwy flynedd dros Israel.
2 Dewisodd Saul 3,000 o ddynion allan o Israel; roedd 2,000 o’r rhain gyda Saul ym Michmas ac yn ardal fynyddig Bethel, ac roedd 1,000 ohonyn nhw gyda Jonathan yn Gibea yn nhiriogaeth Benjamin. Anfonodd weddill y bobl i ffwrdd, pob un i’w babell.
3 Yna gwnaeth Jonathan daro i lawr y garsiwn o Philistiaid a oedd yn Geba, a chlywodd y Philistiaid am y peth. A threfnodd Saul i negeswyr ganu’r corn drwy’r wlad i gyd a dweud: “Gwrandewch, chi Hebreaid!”
4 Clywodd Israel gyfan y newyddion hyn: “Mae Saul wedi taro i lawr garsiwn o Philistiaid, ac nawr mae Israel wedi dod yn ddrewdod i’r Philistiaid.” Felly cafodd y bobl eu galw i ddilyn Saul yn Gilgal.
5 Daeth y Philistiaid hefyd at ei gilydd i frwydro yn erbyn Israel, gyda 30,000 o gerbydau rhyfel a 6,000 o farchogion a milwyr mor niferus â’r tywod ar lan y môr; ac aethon nhw i fyny a gwersylla ym Michmas i’r dwyrain o Beth-afen.
6 A gwelodd dynion Israel eu bod nhw mewn helynt, oherwydd roedd y gelyn yn gwasgu’n galed arnyn nhw; felly cuddiodd y bobl yn yr ogofâu, y cafnau, y creigiau, y daeargelloedd, a’r pydewau.
7 Gwnaeth rhai o’r Hebreaid hyd yn oed groesi’r Iorddonen i wlad Gad a Gilead. Ond roedd Saul yn dal yn Gilgal, ac roedd yr holl bobl oedd yn ei ddilyn yn crynu mewn ofn.
8 Parhaodd i aros am saith diwrnod, tan yr amser roedd Samuel wedi ei ddewis, ond wnaeth Samuel ddim dod i Gilgal, ac roedd y bobl yn dechrau gadael Saul.
9 O’r diwedd dywedodd Saul: “Dewch â’r aberthau llosg a’r aberthau heddwch ata i.” Ac offrymodd yr aberth llosg.
10 Ond unwaith iddo orffen offrymu’r aberth llosg, dyma Samuel yn cyrraedd. Felly aeth Saul allan i’w gyfarfod a’i fendithio.
11 Yna dywedodd Samuel: “Beth rwyt ti wedi ei wneud?” Atebodd Saul: “Gwelais fod y bobl yn fy ngadael i, a wnest ti ddim dod o fewn yr amser roeddet ti wedi ei benodi, ac roedd y Philistiaid yn casglu at ei gilydd ym Michmas.
12 Felly dywedais wrtho i fy hun, ‘Nawr bydd y Philistiaid yn dod i lawr yn fy erbyn i yn Gilgal, a dydw i ddim wedi ceisio ffafr Jehofa.’ Felly roeddwn i’n teimlo fy mod i’n gorfod offrymu’r aberth llosg.”
13 Gyda hynny, dywedodd Samuel wrth Saul: “Rwyt ti wedi bod yn ffôl. Dwyt ti ddim wedi ufuddhau i’r gorchymyn roddodd Jehofa dy Dduw iti. Petaset ti wedi gwneud hynny, byddai Jehofa wedi gwneud dy deyrnas yn gadarn dros Israel am byth.
14 Ond fydd dy deyrnas ddim yn para. Bydd Jehofa yn dod o hyd i ddyn sy’n plesio ei galon, a bydd Jehofa yn ei benodi ef yn arweinydd dros ei bobl, oherwydd dwyt ti ddim wedi ufuddhau i beth mae Jehofa wedi ei orchymyn iti.”
15 Yna cododd Samuel a mynd ar ei ffordd o Gilgal i Gibea yn nhiriogaeth Benjamin, a gwnaeth Saul gyfri’r bobl; roedd tua 600 o ddynion yn dal i fod gydag ef.
16 Roedd Saul, ei fab Jonathan, a’r bobl oedd yn dal i fod gyda nhw yn byw yn Geba, yn nhiriogaeth Benjamin, ac roedd y Philistiaid wedi gwersylla ym Michmas.
17 A byddai’r tri grŵp o filwyr yn mynd allan o wersyll y Philistiaid. Byddai un grŵp yn troi tua’r ffordd sy’n mynd i Offra, i wlad Sual;
18 byddai grŵp arall yn troi tua’r ffordd sy’n mynd i Beth-horon; a byddai’r trydydd grŵp yn troi tua’r ffordd sy’n arwain at y ffin sy’n edrych dros ddyffryn Seboim, tua’r anialwch.
19 Bryd hynny, doedd ’na neb yn Israel a oedd yn gwneud pethau o fetel, oherwydd doedd y Philistiaid ddim eisiau i’r Hebreaid wneud cleddyfau a gwaywffyn iddyn nhw eu hunain.
20 Felly roedd rhaid i’r Israeliaid fynd i lawr at y Philistiaid er mwyn minio unrhyw swch aradr, matog, bwyell, neu gryman oedd ganddyn nhw.
21 Roedd rhaid talu pim* er mwyn minio swch aradr, matog, picfforch, neu fwyell, ac er mwyn trwsio swmbwl.*
22 Ac ar ddiwrnod y frwydr, doedd dim un cleddyf na gwaywffon i’w gweld yn nwylo unrhyw un o’r bobl oedd gyda Saul a Jonathan; dim ond Saul a’i fab Jonathan oedd ag arfau.
23 Nawr aeth garsiwn o Philistiaid allan i amddiffyn y llwybr sy’n croesi’r dyffryn ym Michmas.
Troednodiadau
^ Mae’r rhif ar goll yn y testun Hebraeg.
^ Pwys hynafol oedd tua dau draean o sicl.
^ Hynny yw, ffon brocio gwartheg.