EFELYCHU EU FFYDD | JONATHAN
“Daeth y Ddau yn Ffrindiau Gorau”
Roedd y frwydr drosodd ac erbyn y prynhawn roedd Dyffryn Ela’n dawel eto. Chwythai awel dyner drwy’r gwersyll ac yn sŵn siffrwd tawel y pebyll, cynhaliodd y Brenin Saul gyfarfod gyda rhai o’i ddynion. Roedd ei fab hynaf, Jonathan, yno, ac yn gyffro i gyd roedd bugail ifanc yn adrodd ei hanes. Dafydd oedd y bugail, ac roedd ei lais yn llawn brwdfrydedd. Roedd golwg astud ar wyneb Saul wrth iddo wrando ar eiriau Dafydd. Ond sut roedd Jonathan yn teimlo? Yn ystod gyrfa hir ym myddin Jehofa, roedd Jonathan wedi ennill llawer o frwydrau. Ond y dyn ifanc, nid Jonathan, oedd piau’r fuddugoliaeth heddiw. Roedd Dafydd wedi lladd y cawr Goliath! Oedd Jonathan yn genfigennus o’r clod oedd yn cael ei bentyrru ar Dafydd?
Efallai bydd ymateb Jonathan yn eich synnu. Darllenwn: “Ar ôl siarad â Saul dyma Dafydd yn cyfarfod Jonathan, ei fab, a daeth y ddau yn ffrindiau gorau. Roedd Jonathan yn caru Dafydd fwy na fe ei hun.” Rhoddodd Jonathan ei arfau ei hun i Dafydd, gan gynnwys ei fantell a’i fwa. Roedd hyn yn rhodd dra arbennig oherwydd roedd Jonathan yn saethwr o fri. Ar ben hynny, fe wnaeth Jonathan a Dafydd gyfamod, neu gytundeb dwys, i fod yn ffrindiau ffyddlon a fyddai’n cynnal breichiau ei gilydd weddill eu hoes.—1 Samuel 18:1-5.
Fel hyn dechreuodd cyfeillgarwch sydd ymhlith y rhai enwocaf yn y Beibl. Mae cyfeillgarwch yn hynod o bwysig i bobl sydd â ffydd yn Nuw. Os ydyn ni’n ffrindiau ffyddlon i eraill ac yn dewis ein ffrindiau’n ofalus, gallwn gryfhau ffydd ein gilydd mewn byd lle mae cariad yn brin. (Diarhebion 27:17) Felly dewch inni weld beth gallwn ni ei ddysgu am gyfeillgarwch o esiampl Jonathan.
Sail y Cyfeillgarwch
Sut gallai cyfeillgarwch fel hyn dyfu mor gyflym? Mae’r ateb yn ymwneud â sail y cyfeillgarwch. Ystyriwch rywfaint o’r cefndir. Roedd y cyfnod hwn yn un anodd i Jonathan. Dros y blynyddoedd, roedd cymeriad ei dad, y Brenin Saul, wedi newid, ac nid er gwell. Roedd y dyn a fu unwaith yn ostyngedig ac yn ffyddlon, wedi troi’n frenin balch ac anufudd.—1 Samuel 15:17-19, 26.
Rhaid bod y newidiadau yn Saul wedi peri cryn ofid i Jonathan, gan ei fod yn agos at ei dad. (1 Samuel 20:2) Mae’n debyg bod Jonathan wedi poeni am y drwg y gallai Saul fod wedi ei wneud i bobl Jehofa. A fyddai anufudd-dod y brenin yn camarwain y bobl a pheri iddyn nhw golli bendith Jehofa? Heb os, roedd hi’n gyfnod anodd i ddyn ffyddlon fel Jonathan.
Gyda hynny o gefndir, gallwn ddeall beth oedd yn denu Jonathan at Dafydd. Gwelodd Jonathan ffydd ddofn Dafydd. Yn wahanol i’r dynion ym myddin Saul, nid oedd maint Goliath wedi codi ofn ar Dafydd. Yn nhyb Dafydd, roedd ymladd yn enw Jehofa yn ei wneud yn fwy pwerus na Goliath a’i holl arfau.—1 Samuel 17:45-47.
Flynyddoedd yn gynharach, roedd Jonathan yn teimlo’r un ffordd. Roedd yn hollol ffyddiog y gallai dau ddyn—ef a’i gludydd arfau—drechu garsiwn cyfan o filwyr. Pam felly? Roedd Jonathan yn gwybod nad oedd dim yn gallu rhwystro Jehofa. (1 Samuel 14:6) Felly roedd llawer yn gyffredin rhwng Jonathan a Dafydd. Roedd gan y ddau ffydd gref yn Jehofa a chariad mawr tuag ato. Ni allai fod sail well ar gyfer y cyfeillgarwch rhwng y ddau ddyn. Er bod Jonathan yn dywysog ac yn tynnu at ei hanner cant, a Dafydd yn fugail tlawd heb gyrraedd ugain oed, nid oedd y gwahaniaethau rhyngddyn nhw o unrhyw bwys. a
Roedd y cyfamod rhyngddyn nhw yn diogelu eu cyfeillgarwch. Ym mha ffordd? Wel, roedd Dafydd yn gwybod beth oedd bwriad Jehofa ar ei gyfer. Ef fyddai’r brenin nesaf yn Israel! A oedd yn celu’r ffaith honno rhag Jonathan? Dim o gwbl! Mae cyfeillgarwch cryf yn ffynnu ar gyfathrebu da, nid ar gyfrinachau a chelwyddau. Sut gallai dysgu am ddisgwyliadau Dafydd fod wedi effeithio ar Jonathan? Beth petai Jonathan wedi bod ag uchelgais i etifeddu’r orsedd ryw ddydd ac unioni camweddau ei dad? Nid yw’r Beibl yn dweud dim am unrhyw frwydr yng nghalon Jonathan; mae’n sôn dim ond am y pethau sydd o wir bwys, sef teyrngarwch Jonathan a’i ffydd. Gallai weld bod ysbryd Jehofa ar Dafydd. (1 Samuel 16:1, 11-13) Felly cadwodd Jonathan at ei air gan edrych ar Dafydd nid fel un oedd yn cystadlu am yr orsedd ond fel ffrind. Ewyllys Jehofa oedd y peth pwysicaf i Jonathan.
Roedd gan Jonathan a Dafydd ill dau ffydd gadarn yn Jehofa a chariad tuag ato.
Yn y pen draw, roedd eu cyfeillgarwch yn fendith fawr. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl ffyddlon Jonathan? Dylai pob un sy’n gwasanaethu Duw ddeall beth yw gwerth cyfeillgarwch. Nid oes rhaid i’n ffrindiau fod yr un fath â ni o ran oedran neu gefndir. Os oes gwir ffydd ganddyn nhw, byddan nhw’n gwneud lles inni. Roedd Jonathan a Dafydd yn gallu calonogi ei gilydd lawer gwaith. A byddai’r cymorth hynny’n bwysig iawn i’r ddau, oherwydd roedd eu cyfeillgarwch ar fin cael ei brofi’n fwy byth.
Y Cwestiwn o Deyrngarwch
Ar y dechrau, roedd Saul yn hoff iawn o Dafydd ac fe’i penododd yn gapten ar ei fyddin. Ond cyn bo hir, syrthiodd Saul i’r fagl yr oedd Jonathan wedi ei hosgoi, a throi’n genfigennus. Cafodd Dafydd un fuddugoliaeth ar ôl y llall yn erbyn y Philistiaid, gan ennill mawl a bri. Canodd rhai o ferched Israel: “Mae Saul wedi lladd miloedd, ond Dafydd ddegau o filoedd!” Roedd y gân honno’n dân ar groen Saul. Mae’r Beibl yn dweud: “O hynny ymlaen roedd Saul yn amheus o Dafydd, ac yn cadw llygad arno.” (1 Samuel 18:7, 9) Yn ei ffolineb, ofnai y byddai Dafydd yn cipio’r orsedd. Mae’n wir fod Dafydd yn gwybod y byddai’n olynu Saul, ond ni fyddai byth wedi ystyried disodli brenin eneiniog Jehofa tra ei fod yn teyrnasu.
Trefnodd Saul i Dafydd fynd ar ymgyrch yn y gobaith y byddai’n cael ei ladd ond ni weithiodd hynny. Roedd Dafydd yn ennill pob brwydr a chael hyd yn oed mwy o glod a pharch gan y bobl. Syniad nesaf Saul oedd ceisio tynnu ei weision a’i fab hynaf i mewn i gynllun i ladd Dafydd. Dychmygwch siom Jonathan o weld ei dad yn gwneud y fath beth. (1 Samuel 18:25-30; 19:1) Roedd Jonathan yn fab ffyddlon, a hefyd yn ffrind ffyddlon. Y cwestiwn oedd, i bwy y dylai fod yn deyrngar?
Dywedodd Jonathan wrth ei dad: “Paid gwneud cam â dy was Dafydd, achos dydy e erioed wedi gwneud dim byd yn dy erbyn di. Mae popeth mae e wedi ei wneud wedi bod yn dda i ti. Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad yna, a rhoddodd yr ARGLWYDD fuddugoliaeth fawr i Israel. Roeddet ti’n hapus iawn pan welaist ti hynny. Pam mae’n rhaid i ti bechu drwy dywallt gwaed diniwed—lladd Dafydd am ddim rheswm?” Yn groes i’w arfer, gwrandawodd Saul ar Jonathan ac addo peidio â niweidio Dafydd. Ond nid dyn i gadw ei air oedd Saul. Ar ôl i Dafydd ennill mwy o fuddugoliaethau, roedd Saul mor genfigennus nes iddo geisio trywanu Dafydd â gwaywffon. (1 Samuel 19:4-6, 9, 10) Ond fe wnaeth Dafydd ddianc a ffoi o lys Saul.
Ydych chi erioed wedi bod mewn sefyllfa lle roedd hi’n anodd gwybod i bwy y dylech chi fod yn deyrngar? Gall fod yn hynod o boenus. Byddai rhai yn dweud y dylai’r teulu ddod yn gyntaf bob tro. Ond fe wyddai Jonathan yn well. Sut gallai ochri â’i dad yn erbyn dyn a oedd yn was ffyddlon ac ufudd i Jehofa? Gadawodd Jonathan i’w deyrngarwch i Jehofa lywio ei benderfyniad. Dyna pam y siaradodd o blaid Dafydd. Eto i gyd, er bod Jonathan yn rhoi ei deyrngarwch i Dduw yn gyntaf, roedd ei deyrngarwch i’w dad yn gwneud iddo ddweud y gwir yn onest wrtho. Byddai pob un ohonon ni’n elwa o efelychu teyrngarwch Jonathan.
Pris Teyrngarwch
Ceisiodd Jonathan unwaith eto ddod â Saul a Dafydd at ei gilydd, ond heb lwyddiant. Daeth Dafydd at Jonathan yn gyfrinachol, a dweud ei fod yn ofni am ei fywyd. “Dw i o fewn dim i farw,” meddai wrth ei ffrind. Dywedodd Jonathan y byddai’n darganfod beth oedd agwedd ei dad ac yn rhoi gwybod i Dafydd. Tra bod Dafydd yn cuddio, y byddai Jonathan yn defnyddio bwa a saethau i anfon y neges. Gofynnodd Jonathan i Dafydd addo na fyddai byth yn cefnu ar ei ymrwymiad i deulu Jonathan, hyd yn oed ar ôl i Jehofa ddinistrio pob un o elynion Dafydd. Addawodd Dafydd y byddai wastad yn gofalu am deulu Jonathan.—1 Samuel 20:3, 13-27.
Ceisiodd Jonathan amddiffyn a chanmol Dafydd, ond gwylltio a wnaeth Saul! Galwodd Jonathan yn fab “i butain wrthryfelgar,” a dweud bod ei deyrngarwch i Dafydd yn dod â chywilydd ar y teulu. Ceisiodd apelio at uchelgais personol Jonathan: “Tra bydd mab Jesse yn dal yn fyw fyddi di byth yn frenin.” Doedd hynny ddim yn llwyddo ychwaith, a gofynnodd Jonathan: “Pam wyt ti eisiau ei ladd e? Be mae wedi ei wneud o’i le?” Ffrwydrodd Saul! Hyd yn oed yn ei henaint, roedd yn dal yn rhyfelwr grymus. Lluchiodd ei waywffon at ei fab! Ond er gwaethaf ei sgìl, methu a wnaeth. Yn siomedig ac yn flin, cododd Jonathan ar ei draed a gadael.—1 Samuel 20:24-34, troednodyn.
Profodd Jonathan ei fod yn deyrngar ac nid yn hunanol.
Y bore wedyn, aeth Jonathan allan i’r cae lle roedd Dafydd yn cuddio. Gollyngodd saeth yn unol â’r cynllun, i ddangos i Dafydd fod Saul yn dal am ei ladd. Yna anfonodd Jonathan ei was yn ôl i’r dref. Gyda neb arall o gwmpas, roedd gan Dafydd a Jonathan gyfle i siarad am ennyd. Wylodd y ddau, a ffarweliodd Jonathan â’i ffrind ifanc. O hynny ymlaen, byddai Dafydd yn byw fel ffoadur.—1 Samuel 20:35-42.
Profodd Jonathan ei fod yn deyrngar ac nid yn hunanol. Byddai Satan, gelyn pob un ffyddlon, wedi bod wrth ei fodd petai Jonathan wedi dilyn esiampl Saul a rhoi ei uchelgais ei hun yn gyntaf. Mae Satan yn hoffi apelio at ein tueddiadau hunanol. Yn achos y bobl gyntaf, Adda ac Efa, fe lwyddodd. (Genesis 3:1-6) Ond fe fethodd yn achos Jonathan. Rhaid bod hynny wedi digio Satan! A fyddwch chi yn gwrthod Satan yn yr un modd? Rydyn ni’n byw mewn byd lle mae hunanoldeb yn rhemp. (2 Timotheus 3:1-5) A fyddwn ni’n dysgu o esiampl anhunanol Jonathan?
“Roeddet Ti Mor Annwyl i Mi”
Tyfodd casineb Saul tuag at Dafydd yn obsesiwn. Ni allai Jonathan wneud dim ond gwylio ei dad yn disgyn i ryw fath o wallgofrwydd, yn casglu byddin a’i arwain ar draws y wlad yn ceisio lladd un dyn dieuog. (1 Samuel 24:1, 2, 12-15; 26:20) A gafodd Jonathan ran yn hyn i gyd? Yn ddigon diddorol, nid oes sôn yn y Beibl am Jonathan yn mynd ar yr un o’r ymgyrchoedd ffôl hynny. Roedd teyrngarwch Jonathan i Jehofa, i Dafydd, ac i’w addewid ei hun yn gwneud y fath beth yn amhosib.
Ni wnaeth ei deimladau tuag at Dafydd byth newid. Ymhen amser, llwyddodd i gyfarfod Dafydd eto, yn Horesh, sy’n golygu “Man Coediog.” Roedd Horesh mewn ardal fynyddig anghysbell ychydig o filltiroedd i’r de-ddwyrain o Hebron. Pam byddai Jonathan yn mentro mynd i weld Dafydd, ac yntau’n ffoadur? Mae’r Beibl yn dweud ei fod wedi mynd at Dafydd “i’w annog i drystio Duw.” (1 Samuel 23:16) Beth ddywedodd Jonathan?
“Paid bod ag ofn!” meddai Jonathan wrth ei ffrind ifanc, gan ychwanegu: “Fydd fy nhad Saul ddim yn dod o hyd i ti.” Roedd Jonathan yn hollol ffyddiog y byddai bwriad Jehofa yn cael ei wireddu. Aeth ymlaen: “Ti fydd brenin Israel.” Dyna oedd y proffwyd Samuel wedi ei ddweud blynyddoedd yn gynharach, ac fe wnaeth Jonathan atgoffa Dafydd fod Gair Jehofa bob amser yn ddibynadwy. A beth fyddai rôl Jonathan yn hyn i gyd? “Bydda i’n ddirprwy i ti.” Dyna agwedd ostyngedig! Fe fyddai’n hapus i wasanaethu o dan ŵr a oedd yn 30 mlynedd yn iau nag ef, ac i fod yn llaw dde iddo. Ychwanegodd: “Mae dad yn gwybod hyn yn iawn.” (1 Samuel 23:17, 18) Yn ei galon, fe wyddai Saul na fyddai’n ennill y frwydr yn erbyn y dyn yr oedd Jehofa wedi ei ddewis yn frenin!
Yn y blynyddoedd wedyn, mae’n siŵr bod Dafydd wedi cofio’r cyfarfod olaf hynny’n annwyl. Dagrau’r peth yw na chafodd breuddwyd Jonathan o fod yn ail i Dafydd byth mo’i gwireddu.
Aeth Jonathan i’r gad wrth ochr ei dad yn erbyn y Philistiaid, gelynion pennaf Israel. Gallai ymladd gyda chydwybod glir, am nad oedd yn un i ganiatáu i gamweddau ei dad ei rwystro ef rhag gwasanaethu Jehofa. Ymladdodd yr un mor ddewr a ffyddlon ag erioed, ond ni aeth y frwydr yn dda. Aeth Saul mor bell â throi at ddewiniaeth, trosedd a haeddai’r gosb eithaf yn ôl Cyfraith Duw, ac felly fe gollodd fendith Jehofa. Bu farw tri o feibion Saul, gan gynnwys Jonathan, ar faes y gad. Cafodd Saul ei anafu, ac fe gymerodd ei fywyd ei hun.—1 Samuel 28:6-14; 31:2-6.
“Ti fydd brenin Israel,” meddai Jonathan, “a bydda i’n ddirprwy i ti.”—1 Samuel 23:17.
Roedd y galar bron yn ormod i Dafydd. Mor fawr oedd ei galon nes ei fod hyd yn oed yn galaru dros Saul, y dyn a oedd wedi peri cymaint o loes iddo. Lluniodd Dafydd alarnad i Saul a Jonathan. Y geiriau mwyaf teimladwy ynddi efallai yw’r rhai sy’n disgrifio ei alar dros ei gynghorwr a’i gyfaill annwyl:“Dw i’n galaru ar dy ôl di Jonathan, fy mrawd. Roeddet ti mor annwyl i mi. Roedd dy gariad di ata i mor sbesial, roedd yn well na chariad merched.”—2 Samuel 1:26.
Ni wnaeth Dafydd erioed anghofio ei addewid i Jonathan. Flynyddoedd yn ddiweddarach, aeth i chwilio am Meffibosheth, fab anabl Jonathan, er mwyn gofalu amdano. (2 Samuel 9:1-13) Mae’n amlwg bod Dafydd wedi dysgu llawer o esiampl Jonathan; o’i deyrngarwch, ei onestrwydd, a’i barodrwydd i fod yn ffrind ffyddlon, costied a gostio. A fyddwn ni’n dysgu’r un gwersi? A allwn ni chwilio am ffrindiau fel Jonathan? A allwn ni fod yn ffrind da i eraill? Os ydyn ni’n helpu ein ffrindiau i adeiladu ac i gryfhau eu ffydd yn Jehofa, os ydyn ni’n rhoi ein teyrngarwch i Dduw yn gyntaf, ac os ydyn ni’n aros yn ffyddlon yn hytrach na cheisio ein lles ein hunain, byddwn ni’n gyfaill tebyg i Jonathan. A byddwn ni’n efelychu ei ffydd.
a Pan gyfeiria’r Beibl at Jonathan am y tro cyntaf, ar ddechrau teyrnasiad Saul, roedd eisoes yn gadfridog yn y fyddin, ac felly o leiaf ugain oed. (Numeri 1:3; 1 Samuel 13:2) Teyrnasodd Saul am ddeugain mlynedd. Felly, pan fu farw Saul, roedd Jonathan tua 60 oed. Roedd Dafydd yn 30 oed pan fu farw Saul. (1 Samuel 31:2; 2 Samuel 5:4) Felly mae’n rhaid bod Jonathan ryw 30 mlynedd yn hŷn na Dafydd.