Ydy’r Beibl yn Caniatáu Ysgariad?
Ateb y Beibl
Ydy, mae’r Beibl yn caniatáu ysgaru, ond o dan un sefyllfa yn unig. Esboniodd Iesu mai godineb yw’r unig reswm derbyniol i ddod â phriodas i ben. Fe ddywedodd: “Mae unrhyw un sy’n ysgaru ei wraig er mwyn priodi gwraig arall yn godinebu [rhyw y tu allan i briodas], oni bai fod ei wraig wedi bod yn anffyddlon iddo.”—Mathew 19:9.
Mae Duw yn casáu ysgariad twyllodrus a bradwrus. Bydd Duw ei hun yn barnu’r un sy’n gadael ei gymar heb reswm digonol, yn enwedig y rhai sy’n cynllwynio i wneud hynny er mwyn cael partner arall.—Malachi 2:13-16; Marc 10:9.