Beth Yw’r Rheol Aur?
Ateb y Beibl
Dydy’r term “Y Rheol Aur” ddim yn ymddangos yn y Beibl. Ond, mae llawer yn defnyddio’r term hwn i gyfeirio at reol roedd Iesu yn ei dysgu am ymddygiad. Yn ei Bregeth ar y Mynydd, dywedodd Iesu: “Dylech chi bob amser drin pobl eraill fel byddech chi’n hoffi iddyn nhw’ch trin chi.” (Mathew 7:12; Luc 6:31) Mae’r Rheol Aur hefyd wedi cael ei mynegi fel hyn: “Gwnewch i eraill fel y dymunwch i eraill wneud i chi.”
Beth yw ystyr y Rheol Aur?
Mae’r Rheol Aur yn ein hannog ni i drin eraill fel y bydden ninnau yn hoffi cael ein trin. Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwerthfawrogi pan fydd eraill yn eu trin nhw â pharch, caredigrwydd, a chariad. Mae’n dilyn felly, y dylen ninnau drin eraill yr un fath.—Luc 6:31.
Pam mae’r Rheol Aur yn fuddiol?
Gall y Rheol Aur wella bron pob sefyllfa. Er enghraifft, mae’n gallu . . .
Cryfhau priodas.—Effesiaid 5:28, 33.
Helpu rhieni i fagu eu plant.—Effesiaid 6:4.
Hybu cyfeillgarwch rhwng ffrindiau, cymdogion, a chyd-weithwyr.—Diarhebion 3:27, 28; Colosiaid 3:13.
Mae’r Rheol Aur yn crynhoi’r brif egwyddor sy’n sail i ran fwyaf o’r Hen Destament. Mae rheol Iesu yn “crynhoi popeth mae Cyfraith Moses [pum llyfr cyntaf y Beibl] ac ysgrifau’r proffwydi’n ei ddweud.” (Mathew 7:12) Mewn geiriau eraill, mae’r Rheol Aur yn adlewyrchu un o wirioneddau sylfaenol yr Hen Destament: cariad at gymydog.—Rhufeiniaid 13:8-10.
Ai derbyn yw prif bwyslais y Rheol Aur?
Nage. Prif bwyslais y Rheol Aur yw rhoi. Pan osododd Iesu y Rheol Aur, roedd yn siarad nid yn unig am sut i drin pobl yn gyffredinol, ond sut i drin hyd yn oed ein gelynion. (Luc 6:27-31, 35) Felly mae’r Rheol Aur yn annog pobl i wneud daioni i bawb.
Sut gallwch chi roi’r Rheol Aur ar waith?
1. Byddwch yn effro. Talwch sylw manwl i’r rhai o’ch cwmpas. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gweld rhywun yn cael trafferth cario bagiau, yn clywed am gymydog sydd yn yr ysbyty, neu’n sylwi bod cyd-weithiwr yn ddigalon. Pan fyddwch chi’n meddwl “am bobl eraill gyntaf,” mae’n debyg y byddwch chi’n dod ar draws gyfleoedd i ddweud neu wneud rhywbeth defnyddiol.—Philipiaid 2:4.
2. Dangoswch empathi. Rhowch eich hunain yn esgidiau’r person arall. Sut byddech chi’n teimlo petasech chi yn yr un sefyllfa? (Rhufeiniaid 12:15) Pan fyddwch chi’n ceisio deall teimladau pobl eraill, efallai bydd hyn yn eich cymell i’w helpu.
3. Byddwch yn hyblyg. Cofiwch fod pawb yn wahanol. Efallai na fydd yr hyn y byddai eraill yn ei hoffi yr un fath â’r hyn byddech chi yn ei hoffi. Felly, allan o’r holl bethau y gallech chi eu gwneud dros eraill, ceisiwch ddewis yr un y byddan nhw’n ei werthfawrogi fwyaf.—1 Corinthiaid 10:24.