Beth Yw’r Pasg Iddewig?
Ateb y Beibl
Mae’r Pasg Iddewig yn ddathliad i gofio’r amser pan wnaeth Duw ryddhau’r Israeliaid o’u caethwasiaeth yn yr Aifft yn 1513 COG. Gorchmynnodd Duw i’r Israeliaid gofio’r digwyddiad pwysig hwnnw bob blwyddyn ar y 14eg o fis Iddewig Abib, a gafodd ei enwi’n Nisan yn ddiweddarach.—Exodus 12:42; Lefiticus 23:5.
Beth yw ystyr ‘y Pasg’?
Mae’r gair “Pasg” yn tarddu o air Hebraeg sy’n golygu “pasio heibio.” Mae’n cyfeirio at yr amser pan wnaeth Duw achub yr Israeliaid o’r trychineb a laddodd pob cyntaf-anedig yn yr Aifft. (Exodus 12:27; 13:15) Cyn i Dduw ddod â’r pla dinistriol hwn, fe orchmynnodd i’r Israeliaid ladd oen neu afr a thaenu’r gwaed ar ffrâm y drws. (Exodus 12:21, 22) Byddai Duw yn gweld yr arwydd hwn ac yna “pasio heibio” eu tai ac arbed eu cyntaf-anedig rhag cael ei ladd.—Exodus 12:7, 13.
Sut wnaethon nhw gadw’r Pasg yn amser y Beibl?
Rhoddodd Duw gyfarwyddyd i’r Israeliaid ar sut i ddathlu’r Pasg cyntaf. a Mae rhai elfennau o ddathlu’r Pasg y soniwyd amdanyn nhw yn y Beibl yn cynnwys y canlynol.
Aberthu: Gwnaeth teuluoedd ddewis oen (neu afr) un mlwydd oed ar y 10fed o Abib (Nisan), ac ar y 14eg, gwnaethon nhw ei ladd. Ar y Pasg cyntaf, gwnaeth yr Iddewon roi ychydig o’i waed ar ochrau ac ar dop ffrâm y drws, yna rhostio’r anifail yn gyfan, a’i fwyta.—Exodus 12:3-9.
Pryd o fwyd: Yn ychwanegol i’r oen (neu’r afr), bwytaodd yr Israeliaid fara croyw a llysiau chwerw fel rhan o fwyd y Pasg.—Exodus 12:8.
Gŵyl: Gwnaeth yr Israeliaid ddathlu Gŵyl y Bara Croyw am saith diwrnod ar ôl y Pasg, felly yn y cyfnod hwnnw doedden nhw ddim yn bwyta bara lefain, sef bara a burum ynddo.—Exodus 12:17-20; 2 Cronicl 30:21.
Addysg: Defnyddiodd rhieni’r Pasg i ddysgu eu plant am Jehofa Dduw.—Exodus 12:25-27.
Teithio: Yn hwyrach ymlaen, teithiodd yr Israeliaid i Jerwsalem i ddathlu’r Pasg.—Deuteronomium 16:5-7; Luc 2:41.
Arferion eraill: Yn nyddiau Iesu, roedd yfed gwin a chanu yn rhan o ddathliadau’r Pasg.—Mathew 26:19, 30; Luc 22:15-18.
Camsyniadau am y Pasg Iddewig
Camsyniad: Gwnaeth yr Israeliaid fwyta swper y Pasg ar y 15fed o Nisan.
Ffaith: Gorchmynnodd Duw i’r Israeliaid ladd oen jest ar ôl machlud haul y 14eg o Nisan a’i fwyta yr un noson. (Exodus 12:6, 8) Mesurodd yr Israeliaid eu dyddiau o un machlud haul i’r nesaf. (Lefiticus 23:32) Felly, gwnaeth yr Israeliaid ladd yr oen a bwyta swper y Pasg ar ddechrau y 14eg o Nisan.
Camsyniad: Dylai Cristnogion ddathlu’r Pasg Iddewig.
Ffaith: Ar ôl i Iesu ddathlu’r Pasg ar y 14eg o Nisan 33 OG, cyflwynodd drefn newydd, sef Swper yr Arglwydd. (Luc 22:19, 20; 1 Corinthiaid 11:20) Gwnaeth y swper hwn gymryd lle’r Pasg, gan ei fod yn coffáu aberth “y Meseia . . . oen y Pasg.” (1 Corinthiaid 5:7) Mae aberth pridwerthol Iesu yn rhagorach nag aberth y Pasg gan ei fod yn rhyddhau pobl o’u caethwasiaeth i bechod a marwolaeth.—Mathew 20:28; Hebreaid 9:15.
a Ond wrth i amser fynd heibio, roedd rhaid addasu. Er enghraifft, gwnaeth yr Israeliaid ddathlu’r Pasg cyntaf “ar frys” oherwydd roedd rhaid iddyn nhw fod yn barod i adael yr Aifft. (Exodus 12:11) Ond, unwaith iddyn nhw gyrraedd Gwlad yr Addewid, doedd dim rhaid iddyn nhw ddathlu ar frys bellach.