Sut Mae Aberth Iesu “yn Bridwerth Dros Lawer”?
Ateb y Beibl
Aberth Iesu yw’r modd y mae Duw yn achub y ddynolryw rhag pechod a marwolaeth. Mae’r Beibl yn cyfeirio at waed Iesu fel “pridwerth” neu bris a dalwyd i’n hachub. (Effesiaid 1:7; 1 Pedr 1:18, 19) Dywedodd Iesu ei fod wedi aberthu ei fywyd “yn bridwerth dros lawer.”—Mathew 20:28, Beibl Cymraeg Diwygiedig.
Pam roedd angen ‘pridwerth dros lawer’?
Cafodd Adda, y dyn cyntaf, ei greu yn berffaith, hynny yw heb bechod. Byddai wedi bod yn bosib iddo fyw am byth, ond collodd y cyfle hwnnw drwy ddewis bod yn anufudd i Dduw. (Genesis 3:17-19) Pan gafodd Adda blant, etifeddodd y plant bechod eu rhieni. (Rhufeiniaid 5:12) Dyna pam mae’r Beibl yn dangos bod Adda, mewn gwirionedd, wedi “gwerthu” ei hun a’i blant yn gaethweision i bechod a marwolaeth. (Rhufeiniaid 7:14) Gan eu bod nhw’n amherffaith, nid oedd yr un ohonyn nhw’n gallu prynu’n ôl yr hyn yr oedd Adda wedi ei golli.—Salm 49:7, 8.
Tosturiodd Duw wrth ddisgynyddion Adda, gan nad oedd modd iddyn nhw gywiro’r sefyllfa. (Ioan 3:16) Eto, gan fod Duw yn hollol gyfiawn, nid oedd modd iddo ddiystyru neu esgusodi eu pechodau heb fod sail i’w faddeuant. (Salm 89:14; Rhufeiniaid 3:23-26) Mae Duw yn caru’r ddynolryw, felly fe drefnodd ffordd gyfreithiol nid yn unig i’w pechodau cael eu maddau, ond i gael eu dileu hefyd. (Rhufeiniaid 5:6-8) Y pridwerth yw’r sail gyfreithiol honno.
Sut mae’r pridwerth yn gweithio?
Yn y Beibl, mae’r term “pridwerth” yn cynnwys y tair agwedd ganlynol:
Mae’n daliad.—Exodus 21:30, BCND.
Mae’n rhyddhau.—Numeri 3:46-49.
Mae’n cyfateb i werth yr hyn sy’n cael ei brynu. a
Ystyriwch sut mae aberth Iesu Grist yn cynnwys y tair agwedd hyn.
Taliad. Mae’r Beibl yn dweud bod “pris wedi ei dalu” am Gristnogion. (1 Corinthiaid 6:20; 7:23) Y pris hwnnw yw gwaed Iesu sydd “wedi prynu pobl i Dduw . . . o bob llwyth ac iaith, hil a chenedl.”—Datguddiad 5:8, 9.
Rhyddhau. Mae aberth Iesu yn “talu’r pris i’n rhyddhau ni o afael pechod.”—1 Corinthiaid 1:30; Colosiaid 1:14; Hebreaid 9:15.
Cyfatebiaeth. Mae aberth Iesu—ei fywyd dynol perffaith—yn cyfateb yn union i’r hyn a gollodd Adda. (1 Corinthiaid 15:21, 22, 45, 46) Mae’r Beibl yn dweud: “Cafodd tyrfa enfawr o bobl eu gwneud yn bechaduriaid am fod Adda wedi bod yn anufudd. A’r un modd daeth tyrfa enfawr o bobl i berthynas iawn gyda Duw am fod Iesu wedi bod yn ufudd.” (Rhufeiniaid 5:19) Mae hyn yn esbonio sut mae marwolaeth un dyn yn gallu talu’r pridwerth dros lawer o bechaduriaid. Mae’r bywyd dynol perffaith a aberthodd Iesu “yn bridwerth dros bawb” sy’n cymryd y camau angenrheidiol i’w dderbyn.—1 Timotheus 2:5, 6, BCND.
a Yn y Beibl, mae’r geiriau gwreiddiol a gyfieithir “pridwerth” yn cyfleu’r syniad o bris, neu rywbeth gwerthfawr, sy’n cael ei dalu. Er enghraifft, ystyr sylfaenol y ferf Hebraeg caphar yw “gorchuddio.” Fel arfer mae’n cyfeirio at orchuddio neu faddau pechod. (Salm 65:3) Mae’r enw cysylltiedig copher yn cyfeirio at y pris sy’n cael ei dalu er mwyn trefnu’r gorchuddio, sef y pridwerth neu’r brynedigaeth. (Exodus 21:30, BCND) Yn yr un modd, mae’r gair Groeg lutron, a gyfieithir yn aml “pridwerth,” hefyd yn cael ei gyfieithu “pris i ryddhau.” (Mathew 20:28) Roedd ysgrifenwyr Groeg yn defnyddio’r term i gyfeirio at bris a daliwyd i ryddhau carcharor rhyfel neu gaethwas.